Gwybodaeth am y Dosbarthiadau Meistr
Mireiniwch eich sgiliau ysgrifennu creadigol trwy'r dosbarth meistr barddoniaeth hwn a gynhelir yng Nghastell y Penrhyn fel rhan o'r Ŵyl Bod yn Ddynol. Bydd y gweithdy hwn sydd wedi'i ysbrydoli gan weithiau beirdd canu mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn eich helpu i archwilio'ch dychymyg telynegol trwy farddoniaeth a pherfformiad.
P’un a yw ysgrifennu yn newydd i chi, mae gennych brofiad mewn genres eraill neu rydych yn fardd profiadol, amcan y dosbarth meistr hwn yw cryfhau'ch gallu i gysylltu â'r byd o'ch cwmpas trwy ysgrifennu.
Gan ddefnyddio Castell y Penrhyn fel cefndir, cewch eich tywys trwy'r dosbarth meistr hwn i archwilio agweddau poblogaidd ar farddoniaeth fel ysgrifennu am olygfeydd, cysylltu â'ch emosiynau, prosesu'r gorffennol a dathlu'ch treftadaeth.
Bydd bardd o Gymru yn eich tywys trwy'r dosbarth meistr, lle byddwch yn ysgrifennu ac yn perfformio'ch barddoniaeth eich hun trwy arddangosfa ddigidol. Cynhelir y dosbarth meistr hwn ar y safle ac ar-lein felly bydd ar gael i awduron yng ngogledd Cymru a ledled y byd.