Barddoniaeth yng Nghastell y Penrhyn
Dosbarthiadau Meistr Barddoniaeth Canu Mawl Cymraeg yng Nghastell y Penrhyn
Mae hanes Cymru yn gyforiog o farddoniaeth, yn mynd yn ôl i'r cyfnod canoloesol pan fyddai beirdd talentog yn teithio o amgylch y wlad i berfformio eu gwaith i dywysogion ac uchelwyr. Heddiw, mae barddoniaeth Gymraeg yn ymarfer creadigol poblogaidd a phwerus, a berfformir mewn Eisteddfodau ledled Cymru.
Cewch ddysgu am hanes barddoniaeth Gymraeg, ffurfiau unigryw fel cynghanedd a sut i greu a pherfformio eich barddoniaeth eich hun trwy ddosbarthiadau meistr a gynhelir yng Nghastell y Penrhyn yng ngogledd-orllewin Cymru ac ar-lein.
.png)
Gwybodaeth am y Dosbarthiadau Meistr
Mireiniwch eich sgiliau ysgrifennu creadigol trwy'r dosbarth meistr barddoniaeth hwn a gynhelir yng Nghastell y Penrhyn fel rhan o'r Ŵyl Bod yn Ddynol. Bydd y gweithdy hwn sydd wedi'i ysbrydoli gan weithiau beirdd canu mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn eich helpu i archwilio'ch dychymyg telynegol trwy farddoniaeth a pherfformiad.
P’un a yw ysgrifennu yn newydd i chi, mae gennych brofiad mewn genres eraill neu rydych yn fardd profiadol, amcan y dosbarth meistr hwn yw cryfhau'ch gallu i gysylltu â'r byd o'ch cwmpas trwy ysgrifennu.
Gan ddefnyddio Castell y Penrhyn fel cefndir, cewch eich tywys trwy'r dosbarth meistr hwn i archwilio agweddau poblogaidd ar farddoniaeth fel ysgrifennu am olygfeydd, cysylltu â'ch emosiynau, prosesu'r gorffennol a dathlu'ch treftadaeth.
Bydd bardd o Gymru yn eich tywys trwy'r dosbarth meistr, lle byddwch yn ysgrifennu ac yn perfformio'ch barddoniaeth eich hun trwy arddangosfa ddigidol. Cynhelir y dosbarth meistr hwn ar y safle ac ar-lein felly bydd ar gael i awduron yng ngogledd Cymru a ledled y byd.
Arweinydd y Gweithdy Barddoniaeth
Rhys Trimble
Mae Rhys Trimble yn fardd, athro, cyfieithydd, perfformiwr, beirniad, cerddor, artist gweledol, cyfriniwr, pastynwr, artist perfformio, cyhoeddwr a golygydd niwro-amrywiol, dwyieithog a anwyd yn Zambia, a fagwyd yn Ne Cymru ac sy'n byw yng Ngogledd Cymru.


Yr Ŵyl Bod yn Ddynol
Bob mis Tachwedd, mae’r ŵyl Bod yn Ddynol yn cyflwyno cannoedd o ddigwyddiadau am ddim ledled y DU a thu hwnt. Amcan digwyddiadau’r ŵyl yw dathlu a dangos y ffyrdd y mae’r dyniaethau yn ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau bob dydd, yn ein helpu i ddeall ein hunain, ein cysylltiadau ag eraill, a’r heriau sy’n ein hwynebu mewn byd sy’n newid. Bob blwyddyn mae'r ŵyl yn gwahodd ymchwilwyr mewn prifysgolion a sefydliadau ymchwil eraill i gydweithio â phartneriaid cymunedol a diwylliannol lleol i greu digwyddiadau a phrojectau cyffrous a gafaelgar i bawb eu mwynhau. Mae Bod yn Ddynol yn ŵyl genedlaethol o ran ei bod yn lleol, gyda digwyddiadau yn cael eu cynnal ym mhobman o Dundee i Ddyfnaint.
Trefnir Dosbarthiadau Meistr Barddoniaeth Canu Mawl Cymraeg gan Matthew Rowland a Kayla Jones sy'n Ymchwilwyr PhD yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Castell y Penrhyn
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Castell y Penrhyn yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae wedi'i leoli yng ngogledd orllewin Cymru. Roedd yr hen ystad yn eiddo i deulu Pennant, a oedd yn arweinwyr yn y diwydiant llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Caiff Castell y Penrhyn ei gysylltu’n aml â'i gysylltiad â chaethwasiaeth drawsatlantig a'r diwydiant llechi, sy'n bynciau cymhleth sy'n dal i gael eu harchwilio heddiw.
Mae gan Gastell y Penrhyn hefyd hanes canoloesol cyfoethog, gyda theuluoedd bonedd dylanwadol Cymru a beirdd canu mawl poblogaidd Cymru.
Cyswllt
I ofyn unrhyw gwestiynau am yr ŵyl neu'r dosbarthiadau meistr barddoniaeth, e-bostiwch y cyfrif isod:
.png)